Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Rhagfyr 2018

Bodaod tinwyn a grugieir coch: Canfod tir cyffredin mewn gwrthdaro parhaus

Bu gwrthdaro ers degawdau rhwng cadwraethwyr sy'n gweithio dros warchod niferoedd y bodaod tinwyn a'r rheiny sy'n gwneud bywoliaeth o saethu grugieir coch yn fasnachol yn ucheldiroedd Lloegr, a hynny heb arwydd o gymod. Gan dynnu ar waith a wnaed ym maes seicoleg, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn People and Nature yn ymchwilio i'r gwerthoedd sylfaenol sydd gan saethwyr a chadwraethwyr sy'n ei gwneud hi mor anodd i ddod o hyd i atebion ar y cyd. Mae astudiaethau ecolegol dros y 30 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y gall bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill leihau niferoedd y grugieir i'r fath raddau bod perygl i saethu grugieir fynd yn anhyfyw yn economaidd. O ganlyniad, caiff bodaod tinwyn eu lladd yn anghyfreithlon ar weunydd grugieir, er eu bod wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ers 1952.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018

Astudiaeth £1.85m i ymchwilio i ficrobau'n "ffawdheglu" ar blastig yn y môr

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgolion Stirling a Warwick ar broject newydd gwerth £1.85 miliwn sy'n ymchwilio i'r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau - a'r effaith bosibl ar iechyd pobl. Mae'r gwyddonwyr yn ceisio deall sut mae plastig yn gweithredu fel cerbyd, a allai ledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir, neu hyd yn oed o wlad i wlad, a sut mae hynny'n effeithio ar iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Site footer