Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Ebrill 2014

Angen tystiolaeth gadarn - gwyddonwyr yn mynnu bod angen mwy o wybodaeth cyn gwneud rhagor o benderfyniadau cadwraethol yn Awstralia

Dadleuwyd a ddylid mynd ati'n fwriadol i ddifa dingos, ac i ba raddau y maent yn ddefnyddiol wrth ddiogelu anifeiliaid llai sydd o dan fygythiad trwy hela cathod mawr a llwynogod. Tra bod gwasanaethau bywyd gwyllt Awstralia yn gwario miloedd ar ffyrdd eraill o reoli rhywogaethau anfrodorol, heb gael canlyniadau boddhaol, ceir tystiolaeth bod cynnal niferoedd y dingo o fudd i famaliaid llai. Mae gan y wlad bolisi difa a gwenwyno sy'n gwneud i gynllun difa moch daear y DU edrych yn ddigon diniwed. Mae papur yn y Journal of Applied Ecology yn annog pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ddadl hon, sydd wedi bod yn boeth iawn ar brydiau, i roi eu gwahaniaethau barn o'r neilltu a mynd allan i'r maes eto i gasglu'r data cadarn sydd eu hangen i greu sylfaen gadarn ar gyfer camau rheoli.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014

Mae gwyddau'n rhedeg yn ein helpu i ddeall sut mae goddef lefelau ocsigen isel.

Bu tîm o wyddonwyr rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Bangor a dan nawdd y BBSRC, wrthi'n ddiweddar yn olrhain llwybr yr aderyn sydd yn hedfan uchaf yn y byd, sef yr ŵydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya. Erbyn hyn maent wedi dangos sut y gall yr adar hyn oddef rhedeg yn gyflym iawn tra'n anadlu aer sy'n cynnwys dim ond 7% o ocsigen.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Dathlu llwyddiant yn wyneb anawsterau lu

Fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a gafodd help llaw gan yr Helena Kennedy Foundation, gymryd rhan mewn dathliad arbennig yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Site footer