Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Ebrill 2019

Eog llai atyniadol

Mae ymchwil newydd yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt. Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw. Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019

Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?

Mae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at sicrhau goroesiad y pryfaid sy’n peillio ein cnydau. Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’ am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth. Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019

DNA analysis finds that type of grass pollen, not total count, could be important for allergy sufferers

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Simon Creer a Dr Georgina Brennan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol neu ein datganiad Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol. Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019

Site footer