Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Awst 2017

Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel

Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon. Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI: 10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs

Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm â hyn. Bellach, mae un grŵp o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017

Yr Athro Johnson yn ennill gwobr darlith wobrwyol bwysig

Mae'r Athro Barrie Johnson o Goleg y Gwyddorau Naturiol yn ymuno â rhestr glodwiw o wyddonwyr byd-enwog a wahoddwyd i gyflwyno Darlith Hallimond Cymdeithas Fwynegol y DU. Yr Athro Johnson yw'r unig academydd o Gymru i gyflwyno'r ddarlith yn y 46 mlynedd ers ei sefydlu, a chafod ei enwebu a'i ddewis gan banel ar gyfer yr anrhydedd. Cyhoeddir ei ddarlith yng nghyfnodolyn y gymdeithas maes o law.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Site footer