Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Mehefin 2014

Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn prawf iechyd ar gefnforoedd ledled y byd

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymuno â gwyddonwyr morol o bob cwr o'r byd ar 21 Mehefin i gymryd rhan mewn project ymchwil byd-eang uchelgeisiol - Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd. Ceir 80% o'r holl fywyd ar y ddaear yng Nghefnforoedd y Byd sy'n ymestyn ar draws mwy na 70% o arwynebedd y byd. Micro-organebau morol sy'n gyfrifol am y ffaith bod cylchredau elfennau'r byd yn rhedeg yn llyfn, ond mae llai na 1% ohonynt yn hysbys. Bydd yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn ymuno a 150 o gyrff ymchwil o Ynys yr Iâ i Antarctica ac o Moreea (Polynesia Ffrengig) i Dde Affrica i astudio a chynnal prawf iechyd ar gefnforoedd y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2014

Adnabod y mecanweithiau sy'n effeithio ar wahaniaethau rhwng gwenwynau nadredd

Mae brathiadau gan nadredd yn lladd hyd at 90,000 o bobl bob blwyddyn, mewn ardaloedd gwledig tlawd yn y trofannau gan fwyaf. Mae'r nifer hon yn syndod o fawr wrth ystyried bod meddyginiaethau gwrthwenwyn ar gael. Y gwir yw, serch hynny, bod y meddyginiaethau hyn i raddau helaeth yn effeithiol wrth drin brathiadau gan y rhywogaeth nadredd a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu, ond yn aml iawn maent yn aneffeithiol wrth drin brathiadau gan rywogaethau nadredd gwahanol, hyd yn oed rai sy'n perthyn yn agos. Mewn erthygl yn PNAS (Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America doi.10.1073/pnas. 1405484111 ) mae Dr Nicholas Casewell a Wolfgang Wüster o Brifysgol Bangor ynghyd â'u cydweithwyr yn disgrifio'r mecanweithiau sy'n creu'r amrywiadau yng ngwenwynau rhywogaethau sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a hefyd yr amrywiadau sylweddol yn effeithiau'r gwenwynau a geir oherwydd hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Celloedd Canser yn dewis y dull "blêr a brysiog"

Prif nodwedd canser yw twf afreolus celloedd wedi ei ysgogi gan beiriant cylch celloedd sydd wedi mynd yn wyllt. Prif gydran y peiriant hwn yw'r ensym Cdc2 cinas. Mae Cdc2 cinas wedi ei reoleiddio'n dynn mewn celloedd normal, mae'r rheolaeth yma ar goll mewn celloedd canser. Mae ymchwil flaengar a wnaed ym Mhrifysgol Bangor yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin wedi darganfod bellach bod Cdc2 cinas gorfywiog nid yn unig yn gorfodi celloedd i luosi mewn ffordd afreolus ond hefyd yn ail-raglennu’r gwaith o drwsio cromosomau sydd wedi torri.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Site footer