Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Ionawr 2018

Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE. Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018

Ffrindiau’n casglu degau o filoedd i gynorthwyo Dr Sophie Williams i ddychwel adref

Gŵyl jin, taith noddedig i fyny’r Wyddfa, cardiau Nadolig wedi’u dylunio’n arbennig a digwyddiad eillio gwallt: dim ond rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd wedi eu cynnal gan gyfeillion a theulu Sophie Williams yn ystod y misoedd diwethaf. Mae angen yr arian er mwyn addasu cartref Sophie i’w galluogi i symud o gwmpas y tŷ mewn cadair olwyn ac i roi lle i’r gofalwyr sydd eu hangen arni 24 awr y dydd. Dioddefodd Sophie, a oedd yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Bangor, niwed i’w hymennydd tra ar waith maes yn Tsieina yn 2015. Mae ganddi gyfyngiad ar ei symudiadau o’i gwddf i lawr ac mae hi’n ddibynnol ar beiriant anadlu. Mae disgwyl i’r gwaith i’w chartref yn Sling, ger Tregarth, gostio oddeutu £60,000.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'

Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi ‘A whistle-stop tour around the coast’ mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio. Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau. Gellir archebu'r rhain drwy wefan Pontio neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018

Site footer