Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Holl Newyddion A–Y

£4.9 miliwn o bunnoedd i hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol

Mae Prifysgol Bangor ar fin dechrau hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol fydd yn cael eu paratoi i fynd i'r afael â sialensiau planed o dan bwysau fel rhan o fenter £4.9m a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013

Academydd Prifysgol Bangor yn rhoi tystiolaeth arbenigol yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cyflwynodd academydd o Brifysgol Bangor dystiolaeth gerbron Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (1 Mawrth 2018). Mae’r Athro Barrie Johnson o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn arbenigwr rhyngwladol ar ddefnyddio technegau biolegol er mwyn echdynnu mineralau. Bu’n rhoi tystiolaeth ar sicrhau cyflenwad mineralau yn y DU.

Roedd ei dystiolaeth i’r Pwyllgor heddiw yn seiliedig ar ei gyfraniad i broject ymchwil o bwys yn y DU, yn ymchwilio dulliau o adennill cobalt. Mae’r project, a gyllidir gan y Natural Environment Research Council, yn anelu at gynyddu ymchwil, cloddio a phrosesau adennill sy’n gysylltiedig â cobalt yn y DU, gan fod cobalt yn fetel o bwys strategol ac economaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2018

Access to Masters Scholarships available

A limited number of funded places are available for students interested in studying MA/MSc Sustainable Environmental Management (Welsh Medium) at the School of Environment, Natural Resources and Geography from September 2012.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2012

Adar ffrigad yn hedfan ymhell uwchlaw anawsterau dyfroedd meirwon trofannol Cefnfor yr India

Bu tîm rhyngwladol o wyddonwyr, dan arweiniad yr Athro Henri Weimerskirch o Ganolfan Gwyddorau Biolegol Chize, Canolfan Genedlaethol Ymchwil Wyddonol Ffrainc, mewn cydweithrediad â Dr Charles Bishop o Brifysgol Bangor yn astudio ecoleg symudedd adar ffrigad (Fregata minor).  Yn dilyn yr ymchwil fe gyhoeddwyd erthygl: Frigate birds track atmospheric conditions over months-long trans-oceanic flights, gan Henri Weimerskirch et al. yn y cylchgrawn Science, 1 Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016

Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs

Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm â hyn. Bellach, mae un grŵp o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017

Adnabod y mecanweithiau sy'n effeithio ar wahaniaethau rhwng gwenwynau nadredd

Mae brathiadau gan nadredd yn lladd hyd at 90,000 o bobl bob blwyddyn, mewn ardaloedd gwledig tlawd yn y trofannau gan fwyaf. Mae'r nifer hon yn syndod o fawr wrth ystyried bod meddyginiaethau gwrthwenwyn ar gael. Y gwir yw, serch hynny, bod y meddyginiaethau hyn i raddau helaeth yn effeithiol wrth drin brathiadau gan y rhywogaeth nadredd a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu, ond yn aml iawn maent yn aneffeithiol wrth drin brathiadau gan rywogaethau nadredd gwahanol, hyd yn oed rai sy'n perthyn yn agos.

Mewn erthygl yn PNAS (Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America doi.10.1073/pnas. 1405484111) mae Dr Nicholas Casewell a Wolfgang Wüster o Brifysgol Bangor ynghyd â'u cydweithwyr yn disgrifio'r mecanweithiau sy'n creu'r amrywiadau yng ngwenwynau rhywogaethau sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a hefyd yr amrywiadau sylweddol yn effeithiau'r gwenwynau a geir oherwydd hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Adolygu adnoddau bioynni ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill ar wahân i ynni

Bangor University’s BioComposites Centre (BC) has been selected to lead a consortium to deliver a review on ‘The potential for using bioenergy resources for construction and other non-energy uses’ for the Committee on Climate Change (CCC), a non-governmental advisory body. This review will feed into the updated Bioenergy Review 2018, which will be published by the CCC in the autumn.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018

Allwn ni ddefnyddio eDNA fel 'chwyddwydr amgylcheddol'?

Mae syniad arloesol a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis fel un o wyth project a ddewiswyd o fewn pedwar maes 'syniad' a gyllidir drwy ffrwd cyllid ymchwil newydd "Highlight Topic" Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Ar sail eu hymchwil, gwahoddwyd y gymuned wyddonol i gyflwyno meysydd project a fyddai'n rhoi lle canolog i wyddor amgylcheddol yn y gwaith o reoli'r blaned yn gynaliadwy.  

Ymysg tua 150 o gyflwyniadau roedd "DNA amgylcheddol: cyfrwng ar gyfer ecoleg yr unfed ganrif ar hugain", sef y syniad newydd a awgrymwyd gan Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag academyddion a budd-ddeiliaid eraill.  Bydd y project llwyddiannus yn asesu sut y gallwn ddefnyddio technegau genetig newydd i fesur bioamrywiaeth. 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015

Angen tystiolaeth gadarn - gwyddonwyr yn mynnu bod angen mwy o wybodaeth cyn gwneud rhagor o benderfyniadau cadwraethol yn Awstralia

Dadleuwyd a ddylid mynd ati'n fwriadol i ddifa dingos, ac i ba raddau y maent yn ddefnyddiol wrth ddiogelu anifeiliaid llai sydd o dan fygythiad trwy hela cathod mawr a llwynogod.   Tra bod gwasanaethau bywyd gwyllt Awstralia yn gwario miloedd ar ffyrdd eraill o reoli rhywogaethau anfrodorol, heb gael canlyniadau boddhaol, ceir tystiolaeth bod cynnal niferoedd y dingo o fudd i famaliaid llai.  Mae gan y wlad bolisi difa a gwenwyno sy'n gwneud i gynllun difa moch daear y DU edrych yn ddigon diniwed. 

Mae papur yn y Journal of Applied Ecology yn annog pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ddadl hon, sydd wedi bod yn boeth iawn ar brydiau, i roi eu gwahaniaethau barn o'r neilltu a mynd allan i'r maes eto i gasglu'r data cadarn sydd eu hangen i greu sylfaen gadarn ar gyfer camau rheoli.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014

Anrhydeddu cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor gyda gwobr ddaearyddol

Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol wedi dyfarnu Medal Frenhinol i gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor am ei waith ym maes datblygu amaethyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Arbenigedd Bangor mewn ‘technoleg a fydd yn newid y byd’

Mae maes ymchwil y mae Bangor yn arwain ynddo ar raddfa fyd-eang yn cael ei ddisgrifio fel un o’r deg syniad a allai newid y byd, yn rhifyn y mis hwn (Rhagfyr) o’r Scientific American.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2011

Arbenigwr yn cryfrannu ar Ymgynghoriad Byd ar Adnoddau Genynnol Dyfrol

Roedd yr Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor ymysg un o 13 arbenigwr byd-eang yn cymryd rhan mewn Ymgynghoriad Byd ar Adnoddau Genynnol Dyfrol Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig. Roedd hyn yn swyddfa Rhanbarth y Môr Tawel ac Asia yn Bangkok (28 Ionawr - 1 Chwefror 2013).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2013

Arddangosfa Canser yn Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol

el un o brif noddwyr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn denu plant ac oedolion i’r sioe. Mae gan y brifysgol amrywiaeth o weithgareddau yn yr arddangosfa drwy’r wythnos - yn ymwneud â phopeth o wyddoniaeth i’r plant lleiaf, gyda’r sioe boblogaidd iawn Fflach Bangor - i faterion iechyd, gan gynnwys ymchwil canser, y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut i wirio ‘arwyddion bywyd' yn ogystal â datgelu ychydig mwy ynghylch sut mae ein hymennydd yn gweithio. 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Astudiaeth £1.85m i ymchwilio i ficrobau'n "ffawdheglu" ar blastig yn y môr

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgolion Stirling a Warwick ar broject newydd gwerth £1.85 miliwn sy'n ymchwilio i'r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau - a'r effaith bosibl ar iechyd pobl.

Mae'r gwyddonwyr yn ceisio deall sut mae plastig yn gweithredu fel cerbyd, a allai ledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir, neu hyd yn oed o wlad i wlad, a sut mae hynny'n effeithio ar iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018

Astudiaeth i ddiogelu adnoddau genetig tilapia gwyllt ar gyfer dyfodol ffermio pysgod

Gyda stociau pysgod y byd yn prinhau, mae ffermio tilapia yn llwyddiant byd-eang, gyda chynhyrchu wedi treblu yn ystod y mileniwm hwn. 

Mae hwn yn awr yn ddiwydiant gwerth $7.6bn, gan gynhyrchu 4.5 miliwn tunnell o bysgod fforddiadwy o ansawdd uchel bob blwyddyn.  Yn ogystal, mae'n gynaliadwy, oherwydd yn wahanol i'r eogiaid a'r draenogiaid y môr rydym yn eu magu yn Ewrop, nid oes angen bwydo tilapia gyda llawer o bysgod eraill wedi'u dal o'r cefnforoedd, ond maent at ei gilydd yn bwyta deunydd llysieuol a gwastraff o ffermydd.  Er eu bod yn cael eu meithrin yn awr drwy'r byd, o Affrica y daw tilapia yn wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015

Astudiaeth yn datgelu pwysigrwydd o fod yn debyg ond yn wahanol

Mae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau’n llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.

Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy’n cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature,  mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod ‘Corydoras’ sy’n cydfyw yn yr un afonydd yn copïo patrwm lliw ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011

Astudiaeth yn datgelu pwysigrwydd o fod yn debyg ond yn wahanol

Mae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau’n llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.

Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy’n cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature,  mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod ‘Corydoras’ sy’n cydfyw yn yr un afonydd yn copïo patrwm lliw ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011

Astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig y Merchgobra

Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr sy’n astudio gwenwyn nadredd wedi dilyniannu genom cyfan neidr wenwynig, y Marchgobra, a chadarnhau damcaniaeth a oedd wedi’i chynnig o’r blaen ond heb ei dogfennu’n dda, yn egluro sut y cynhyrchir gwenwyn neidr a’r hyn a arweiniodd at gymhlethdod mawr y gwenwynau sy’n cynnwys dwsinau o docsinau unigol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2013

Athro Prifysgol Bangor yn ymddangos ar The One Show

Mae'n sicr na fyddwch yn edrych ar grancod na'r arfordir yn yr un modd eto wedi gwylo'r Athro Simon Webster yn esbonio wrth Miranda Krestovnikoff sut mae’r benyw o rhywogaeth o grancod cyffredin rydyn ni'n eu darganfod ar lannau'r môr, yn denu gwryw ac yn cael rhywfaint o amddiffyniad i'r fargen!  Mae’r ffilm saith munud i mewn i darllediad diweddar o raglan poblogaidd The One Show’ ar BBC One. Mae ar gael yma am 29 diwrnod.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019

Bang Goes the Theory yn dod i Fangor

Yn dilyn yr helbul diweddar ynghylch cig ceffyl a ddarganfuwyd ynghanol cigoedd eraill, mae’r rhaglen wyddoniaeth boblogaidd Bang Goes the Theory (BBC 2 Cymru 18.30 Mawrth 8 Ebrill 2013/ Llun 8 Ebrill 19.30 BBC One ond nid yn y rhanbarthau) yn edrych ar sut  y gellir defnyddio technegau  genynnol (DNA) newydd i adnabod y pysgodyn ar eich plât.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013

Beth sydd yn y pridd o dan ein traed?

Mae myfyriwr o Ganada, sydd â gwreiddiau Cymreig, yn torri tir newydd yn ei ymchwil i asesu beth yn union sy'n byw yn y pridd Cymreig o dan ein traed.

Mae Paul George, myfyriwr PhD sy'n astudio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), wedi cyhoeddi ei ymchwil heddiw (7 Mawrth 2019) yn Nature Communications.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019

Bioamrywiaeth forol ficrosgopig yn adlewyrchu bywyd mwy o faint

Mae ymchwil yn dangos bod dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid microsgopig yn ein moroedd yn dynwared patrwm dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid mwy o faint ar y tir.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2014

Biotechnoleg ar gyfer Plaleiddiaid

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill grant i ddatblygu plaleiddiad organig gan gyfuno'r arbenigedd a geir yn y Brifysgol Bangor a dau gwmni masnachol.  Gwneir y gwaith yng Ngholeg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Bodaod tinwyn a grugieir coch: Canfod tir cyffredin mewn gwrthdaro parhaus

Bu gwrthdaro ers degawdau rhwng cadwraethwyr sy'n gweithio dros warchod niferoedd y bodaod tinwyn a'r rheiny sy'n gwneud bywoliaeth o saethu grugieir coch yn fasnachol yn ucheldiroedd Lloegr, a hynny heb arwydd o gymod. Gan dynnu ar waith a wnaed ym maes seicoleg, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn People and Nature yn ymchwilio i'r gwerthoedd sylfaenol sydd gan saethwyr a chadwraethwyr sy'n ei gwneud hi mor anodd i ddod o hyd i atebion ar y cyd.

Mae astudiaethau ecolegol dros y 30 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y gall bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill leihau niferoedd y grugieir i'r fath raddau bod perygl i saethu grugieir fynd yn anhyfyw yn economaidd. O ganlyniad, caiff bodaod tinwyn eu lladd yn anghyfreithlon ar weunydd grugieir, er eu bod wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ers 1952.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018

Botswana is humanity's ancestral home, claims major study – well, actually …

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Britta gains First in Cancer Biology

A hard working student has graduated with a First Class Honours degree after a memorable three years at Bangor University.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Cadw proffil isel wrth hedfan dros gopaon y byd.

Mae Gwyddau’r India (Anser indicus) ymysg hedwyr gorau’r byd adar. Yn ogystal â bod yn hardd yr olwg, maent wedi dod i amlygrwydd fel adar sy’n hedfan yn ddidrafferth dros gopaon uchaf y byd yn yr Himalaya wrth iddynt ymfudo o un cynefin i’r llall. Byddai rhywun yn tybio bod yr ymfudo hwn yn galetach fyth wrth ystyried bod lefelau ocsigen ar yr uchder hwn lai na hanner yr hyn a geir ar lefel y môr. Mae’n rhaid i bobl sy’n dringo i’r fath uchder gymryd egwyl bob cam neu ddau i ddod dros yr ymdrech mewn aer mor denau, ond gall Gwyddau’r India hedfan am filltiroedd maith uwchlaw’r copaon, gan glochdar wrth fynd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2012

Canfod yr hormon sy'n gyfrifol am daith ymfudo anhygoel Cranc Coch Ynys y Nadolig

Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig , Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod (sy'n frodorol i'r ynys hon) yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2010

Canolfan ymchwil newydd i astudio problem gynyddol gwastraff plastig

Mae Canolfan ymchwil newydd wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor i astudio problem gynyddol gwastraff plastig. Canolfan Ymchwil Plastig Cymru(PRC Cymru) yw'r cyntaf o'i bath yn y wlad ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o academyddion, myfyrwyr, sefydliadau a diwydiannau.

Daeth Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith Prifysgol Bangor, yr Athro David Thomas, â’r grŵp ynghyd ar ôl sylweddoli bod llawer o wyddonwyr 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2020

Cefnogi'r cochion!

Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn gweithio efo partneriaid i gefnogi ail gyflwyno gwiwerod coch i Ddyffryn Ogwen, yng Ngwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017

Celloedd Canser yn dewis y dull "blêr a brysiog"

Prif nodwedd canser yw twf afreolus celloedd wedi ei ysgogi gan beiriant cylch celloedd sydd wedi mynd yn wyllt. Prif gydran y peiriant hwn yw'r ensym Cdc2 cinas. Mae Cdc2 cinas wedi ei reoleiddio'n dynn mewn celloedd normal, mae'r rheolaeth yma ar goll mewn celloedd canser.

Mae ymchwil flaengar a wnaed ym Mhrifysgol Bangor yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin wedi darganfod bellach bod Cdc2 cinas gorfywiog nid yn unig yn gorfodi celloedd i luosi mewn ffordd afreolus ond hefyd yn ail-raglennu’r gwaith o drwsio cromosomau sydd wedi torri. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Cenynau a Chynffonnau

I gydfynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor poblogaidd y Brifysgol, mae  Storiel wedi dadorchuddio’i harddangosfa newydd sydd i’w gweld yng nghyntedd Storiel ar y thema o ymlusgiaid.

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Melissa Green, myfyrwraig sŵoleg wirfoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2017

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf

Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Cloriannu ymaddasu esblygiadol - ydi'n modelau'n gywir?

Un sialens sy'n wynebu gwyddonwyr yw amcangyfrif sut y bydd ein hamgylchedd, a'r we gymhleth o greaduriaid sydd ynddo, yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd o ganlyniad i newid hinsawdd neu ddylanwadau dynol eraill.

Yn draddodiadol, er mwyn asesu sut y bydd rhywogaethau'n esblygu dros gannoedd o genedlaethau, mae gwyddonwyr wedi ystyried fesul un neu mewn parau elfennau ecolegol sy'n achosi newid yn yr amgylchedd. Mae'r elfennau hyn yn cynnwys pethau fel cynnydd mewn tymheredd, cynnydd mewn CO2 neu newidiadau mewn plaleiddiaid neu wrteithiau.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017

Coedwigwyr Bangor yn Alpau'r Eidal

Cafodd graddedigion a myfyrwyr coedwigaeth Prifysgol Bangor brofiad o reoli coedwigoedd alpaidd o safon uchel ar ymweliad â rhanbarth Piedmont yn yr Eidal ar daith astudio dramor.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2019

Coedwigwyr Bangor yn San Steffan

Cafodd pump o goedwigwyr o Brifysgol Bangor y fraint o gael eu gwahodd i ymuno â myfyrwyr eraill, gweithwyr coedwigaeth, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant coedwigaeth i nodi  lansiad cenedlaethol Confor Cystadleuaeth #TheFutureIsForestry yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Coming of age in 2020 – the summer without exams or school proms

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw a Gwyndaf Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020

Conwydden brin yn hadu am y tro cyntaf yng Nghymru

Mae conwydden brin o Awstralia sydd yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth, ym Mhrifysgol Bangor, wedi hadu efallai am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond yr eildro yn y Deyrnas Unedig.

Can coeden yn unig o’r pinwydd Wollemi (Wollemia nobilis) sydd yn tyfu yn ei lleoliad cynhenid mewn canion yn Awstralia.  Dim ond yn 1994 y daethpwyd o hyd i’r gonwydden.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012

Coronavirus: experts in evolution explain why social distancing feels so unnatural

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r  Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2020

Coronavirus: wastewater can tell us where the next outbreak will be

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020

Croesawu Darlithwyr Newydd i Brifysgol Bangor

Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015

Cydnabyddiaeth am gyfraniad oes at wyddor pysgod a physgodfeydd

Mae Gary Carvalho, Athro sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medal Beverton y Fisheries Society of the British Isles (FSBI) Medal am ei ymchwil sydd wedi torri tir newydd ac am ei gyfraniad oes i wyddor pysgod a physgodfeydd.

Medal Beverton yw gwobr uchaf y FSBI ac mae’n nodi’r Athro Carvalho fel wyddonydd o bwys.  Bu’r Athro Carvalho yn mynychu Symposiwm yr FSBI  yn ddiweddar er mwyn derbyn y fedal.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Cylchgrawn a olygwyd gan academydd o Fangor yn dod i’r brig yn ei faes

Mae cylchgrawn a olygwyd gan academydd ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n adnodd hanfodol ar gyfer pawb sy’n ymddiddori mewn pysgod o ran eu bioleg, eu cadwraeth a’u defnydd wedi cyrraedd y brig yn ei faes.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014

Cymhwyso gwyddoniaeth!

Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017

Cymhwyso gwyddoniaeth!

Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017

Cyn-fyfyriwr Bangor yn ennill y fedal aur yn sioe'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol

Bu cyn-fyfyriwr a raddiodd mewn BSc Botaneg Amaethyddol yn cystadlu'n ddiweddar yn Sioe Flodau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn fyw ar raglen Gardeners' World y BBC gan ennill y fedal aur.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2015

Cyn fyfyriwr Gwyddorau Biolegol yn ysgrifennu llyfr poblogaidd

Hanes dychrynllyd bod ar fwrdd cwch bysgota a suddodd yn nyfroedd yr Antartica a geir gan gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor yn ei lyfr poblogaidd, Last Man Off.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014

Darganfod ail gloc mewnol yn y lleuen fôr frith

Mae gan y lleuen fôr frith (Eurydice pulchra) ddau gloc mewnol yn y corff, un ar gyfer nos a dydd ac un arall ar gyfer llanw a thrai, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 26 Medi.

Mewn papur yn y cyfnodolyn Current Biology, mae ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caergrawnt a Chaerlŷr yn cadarnhau bodolaeth cloc mewnol ar wahân ac annibynnol sy'n dilyn cylch 12.4 awr y llanw.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Darganfod micro-organebau eithafol newydd mewn llyn soda yn Siberia

Yr Athro Peter Golyshin o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol, ac arbenigwr mewn genomeg amgylcheddol micro-organebau yw'r unig awdur o'r DU a chyfranogwr ymchwil sydd wedi darganfod dosbarth newydd o ficro-organebau (archaea) sy'n byw mewn amgylchedd eithafol yn llyn soda alcalïaidd yn Siberia. Mae'r darganfyddiad hwn yn torri tir newydd oherwydd gall y micro-organebau hyn drawsnewid deunydd organig yn uniongyrchol i fethan o dan amodau eithafol o'r fath.

Cyhoeddir y papur heddiw (26.5.17) yn Nature Microbiology.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Darganfod rhywogaeth gwiberod newydd

Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011

Darlithydd o Fangor yn gweithio gyda Bear Grylls

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio â’r anturiaethwr Bear Grylls drwy rannu ei arbenigedd ar gyfer y bennod agoriadol o’r gyfres deledu dair-rhan newydd, Britain’s Biggest Adventures with Bear Grylls.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2015

Datgelu bod y Cobra Affricaniadd anferth gyffredin yn bum rhywogaeth wahanol

Mae’r cobraod  ymysg y nadroedd gwenwynig mwyaf adnabyddus.  Eto, mae papur ymchwil newydd (ZOOTAXA 1 Awst 2018  http://dx.doi.org/10.11646/zootaxa.4455.1.3)  wedi dangos bod un rhywogaeth o gobra, sef cobra’r fforest, yn cwmpasu pum rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd. Mae dwy o’r rhywogaethau hyn, Cobra Ddu’r Fforest a Chobra Rhesog Gorllewin Affrica, yn hollol newydd i wyddoniaeth ac yn cael eu henwi am y tro cyntaf yn y papur hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2018

Dathlu llwyddiant yn wyneb anawsterau lu

Fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a gafodd help llaw gan yr Helena Kennedy Foundation, gymryd rhan mewn dathliad arbennig yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014

Datrys dirgelion gyda Grantiau Ymchwil Leverhulme

Bydd tri grant i Brifysgol Bangor yn galluogi gwyddonwyr i ddatrys rhai o ddirgelion gwyddoniaeth a chofnodi un o ecosystemau mwyaf amrywiol y ddaear.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Datrys sut mae clefyd cymhleth yn bygwth ein coed derw eiconig

Y dulliau gwyddonol diweddaraf yn datgelu achos aml-facteriol gwaedu boncyff mewn dirywiad aciwt coed derw a dulliau newydd o ddadansoddi achosion clefydau cymhleth planhigion

Mae gwaith tîm rhwng Forest Research, Prifysgol Bangor ac eraill wedi llwyddo i olrhain achosion symptomau gwaedu boncyff o'r bygythiad newydd hwn i goed derw brodorol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017

Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.

Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Diflaniad caeau reis yn bygwth rhagor o gynhesu byd-eang

Mae newid mawr wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Tsieina, heb i ni sylwi. Mae caeau padi wedi bod yn cael eu troi'n byllau dyframaeth yn gyflym iawn, ac yn dal i gael eu troi, er mwyn cynhyrchu rhagor o brotein i boblogaethau'r byd sy'n tyfu. Mae'r perygl i'r newid hwn gael effaith annisgwyl ar gynhesu byd-eang.

Mae ymchwilwyr rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor, wedi canfod bod troi caeau reis i ddyframaeth yn rhyddhau symiau anferthol o'r methan nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Dilyniannu DNA newydd yn datgelu cymunedau cuddiedig

Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010

Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?

Mae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt  am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at  sicrhau goroesiad  y pryfaid sy’n peillio ein cnydau.

Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’  am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth.

Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo’r Gymdeithas Ymlusgolegol

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 16 o Ebrill rhwng 11yb i 3yp.

Bydd cyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2016

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo sesiynnau tynnu llun galw i mewn

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 14 o Fai rhwng 11yb i 3yp.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd.

Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Diwrnod Gwenwyn yn mynd o nerth i nerth

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Herpetolegol Prifysgol Bangor ei phedwerydd Diwrnod Gwenwyn blynyddol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, lle rhoddodd sawl arbenigwr sgyrsiau ar nifer o bynciau yn y maes a lle cafodd y cyfranogwyr gyfle i weld arddangosiad byw o ymlusgiaid gwenwynig, yn cynnwys Cobra, Anghenfil Gila ac amrywiaeth o wiberod. Noddir y digwyddiad yn rhannol gan Gymdeithas Herpetolegol Prydain a’r Gymdeithas Herpetolegol Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2014

DNA analysis finds that type of grass pollen, not total count, could be important for allergy sufferers

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Simon Creer a Dr Georgina Brennan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol neu ein datganiad Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019

DNA yn canfod anifeiliaid afon y funud hon

Mae ymchwil newydd yn profi bod DNA amgylcheddol yn goroesi am lai na deuddydd mewn afonydd bach, chwim, ac felly mae'n darparu gwybodaeth leol a chyfredol iawn ar gyfansoddiad rhywogaethau.  Mae hon yn dystiolaeth newydd hollbwysig wrth i fiolegwyr droi fwyfwy at dechnegau samplo DNA newydd i asesu iechyd ecosystem dwr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri

Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.

Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications (coi10.1038/ncomms14087).

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri

Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.

Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications (coi10.1038/ncomms14087).

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

Drysau Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor

There will be an opportunity for the public to visit Brambell Natural History Museum as part of the Open Doors events on Saturday 28 September 2019.

The Open Doors events gives the public the opportunity to have a look at some of Gwynedd and Conwy’s historical buildings, gardens and interesting and unusual locations all for free throughout September.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019

Drysau’n agored i gasgliadau Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor yn rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 27 Medi.

Mae digwyddiad Drysau Agored, sydd yn cael ei arwain gan Cadw, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2014

Dull newydd a mwy effeithlon o samplu bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif aberoedd Prydain

Mae dwy o brif aberoedd Prydain wedi bod yn fannau profi llwyddiannus i ddull newydd ac effeithiol o 'wirio iechyd' bioamrywiaeth dŵr, a gall arwain at samplu cyflymach a mwy effeithlon mewn safleoedd eraill.

Cyflawnir "bio-fonitro", neu asesu effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol, yn aml drwy fonitro amrywiaeth biolegol.   Mae dulliau presennol yn dibynnu ar adnabod rhywogaethau trwy ddulliau maniwal ond mae hynny'n cymryd amser ac yn aml yn canolbwyntio ar greaduriaid mwy. Felly, ni allant weithiau adlewyrchu iechyd cynefinoedd neilltuol yn gywir.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015

Dyblu cynhyrchu pysgod a chadw bioamrywiaeth - a ellir ei wneud?

Gall consortiwm newydd i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol yn Tanzania, syd yn cynnwyd Profysgol Bangor, helpu i ymdrin â thlodi a diffyg maeth

Mae gan Tanzania, sydd efallai yn fwyaf adnabyddus am y saffarïau ar hyd y gwastadeddau maith ac agored, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw bach iawn sydd â photensial enfawr heb ei gyffwrdd.

 Mae'r tilapia, sef y pysgodyn a ffermir fwyaf drwy'r byd ar wahân i'r carp, yn byw mewn niferoedd mawr yn y Llynnoedd Mawr (Victoria, Tanganyika, Malawi/Nyasa) sy'n gorchuddio chwech y cant o'r wlad. Ystyrir y llynnoedd yn fannau pwysig o ran bioamrywiaeth fyd-eang, maent yn un o ddim ond 25 drwy'r byd, oherwydd y cannoedd o rywogaethau'r pysgod ciclidiaid, yn cynnwys rhywfaint o'r 30 o isrywogaethau tilapia sydd yn Tanzania.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2015

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2016

Edible crabs won't cope with the effects of climate change on seawater – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nia Whiteley o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod

Mae grŵp o ymchwilwyr Prifysgol Bangor newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwncïod. 


Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019

Effaith newid hinsawdd ar ryddhau CO2 o fawn llawer uwch nag y tybiwyd

Mae cyfnodau o dywydd sych eithafol yn achosi i fawn ryddhau llawer mwy o garbon deuocsid na’r hyn a sylweddolwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011

Effaith newid yn yr hinsawdd ar allu marmotiaid i oroesi yn gwahaniaethu rhwng tymhorau

Mae llawer o anifeiliaid wedi esblygu cylch bywyd a strategaethau (patrymau goroesi ac atgenhedlu) yn unol ag amrywiaeth a ragwelir rhwng y tymhorau mewn amodau amgylcheddol. Mae hafau byr a mwyn yn cynhyrchu cyfnodau toreithiog o lystyfiant a bwyd, sef yr amser perffaith i roi genedigaeth i'r ifanc. Mae gaeafau hir a garw pan fo bwyd yn brin wedi gwneud anifeiliaid i ddibynnu'n helaeth ar gadw braster wrth gefn i gael egni, ac mewn achosion eithafol, i aeafgysgu neu fudo.

Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn newid yr amodau tymhorol hyn y mae llawer o rywogaethau wedi'u haddasu iddynt. Mae'r tymheredd yn codi, llai o eira yn y gaeaf, eira'n toddi ynghynt, hafau'n ymestyn, a digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach (e.e. sychder, llifogydd)

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Efrydiaeth PhD mewn Gwyddorau Biofeddygol

Mae Efrydiaeth PhD y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddorau Biofeddygol ar gael o 1 Hydref 2012. Un o amcanion y cynllun yw galluogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa i gymhwyso fel ymgeiswyr cymwys ar gyfer swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg.  Mae’r pwyslais ar ymchwilio i gael cymhwyster PhD, ond mae hyfforddiant mewn addysgu a dysgu hefyd yn rhan allweddol o’r cynllun.  


Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2012

Efrydiaeth PhD NERC mewn Sŵoleg

Mae'r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn cynnig efrydiaeth PhD wedi ei chyllido gan NERC a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2012.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012

Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld i glywed am 25 mlynedd o ymchwil

Bu Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i gyflwyno darlith ar y cyfleoedd ar gyfer rheolaeth integredig ar ein hadnoddau naturiol i gynulleidfa wadd o staff a myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2014

Enillydd Kindle y Ffair ôl-raddedigion

Pan ddaeth George Yates i'r Ffair Cyrsiau ôl-raddedigion ddiwedd Tachwedd, nid oedd yn gwybod y byddai'n rhaid iddo ailfeddwl ynghylch ei restr Nadolig. Cafodd cerdyn cofrestru George ei ddewis ar hap o blith dros 350 o gardiau ar ddiwrnod y Ffair, a daeth yn enillydd lwcus Amazon Kindle newydd sbon. Yn digwydd bod, roedd hwn ar frig ei restr o bethau y byddai wedi hoffi'u cael Nadolig pan fu i ni gwrdd ag o fis Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014

Entrepreneur ifanc o Fangor yn credu bod digon o bysgod yn y môr

Mae myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn defnyddio ei angerdd dros fioleg y môr i wireddu ei uchelgais o ddod y cyflenwyr ar lein mwyaf o rywiogaethau o bysgod byw yng ngwledydd Prydain. Bydd Sam Hamill, sydd ar ei drydedd flwyddyn o astudio Bioleg Môr, yn lansio Big on Fish fis Tachwedd, siop ar lein ac ar y stryd yn gwerthu offer acwariwm ac yn cadw mwy na 1,100 o rywogaethau o bysgod egsotig a chwrel.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2018

Eog llai atyniadol

Mae ymchwil newydd yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt. Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw.

Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019

Esblygu gwenwyn neidr ar gyfer ysglyfaeth nid amddiffyniad

Amcangyfrifir y gellir priodoli dros 100,000 o farwolaethau dynol bob blwyddyn o 700 i frathiadau gan nadroedd. Daw hyn gan rywogaethau nadroedd gwenwynig y byd, gyda phob brathiad yn cael ei wneud wrth i'r nadroedd amddiffyn eu hunain pan fyddant yn teimlo dan fygythiad gan fodau dynol a ddaw'n rhy agos atynt. Fodd bynnag, daw darn newydd o ymchwil i'r casgliad na esblygodd gwenwyn neidr fel dull o amddiffyn.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2020

Esbonio un o digwyddiadau rhyfedda byd natur

Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig, Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio. Mae hyn yn cael ei ddangos ar Nature’s Weirdest Events ar BBC 2 2 Ionawr am 8.00y.h a’i esbonio gan yr Athro Simon Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol. Roedd yr Athro Webster yn gyfrifol am ganfyddiad yr hormone sy’n gyfrifol am y daith anhygoel.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2013

Ffrindiau’n casglu degau o filoedd i gynorthwyo Dr Sophie Williams i ddychwel adref

Gŵyl jin, taith noddedig i fyny’r Wyddfa, cardiau Nadolig wedi’u dylunio’n arbennig a digwyddiad eillio gwallt: dim ond rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd wedi eu cynnal gan gyfeillion a theulu Sophie Williams yn ystod y misoedd diwethaf. Mae angen yr arian er mwyn addasu cartref Sophie i’w galluogi i symud o gwmpas y tŷ mewn cadair olwyn ac i roi lle i’r gofalwyr sydd eu hangen arni 24 awr y dydd.

Dioddefodd Sophie, a oedd yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Bangor, niwed i’w hymennydd tra ar  waith maes yn Tsieina yn 2015. Mae ganddi gyfyngiad ar ei symudiadau o’i gwddf i lawr ac mae hi’n ddibynnol ar beiriant anadlu. Mae disgwyl i’r gwaith i’w chartref yn Sling, ger Tregarth, gostio oddeutu £60,000.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Five ingenious ways snakes manipulate their bodies to hunt and survive

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tom Major myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018

Forest Research wins funding for collaborative research into oak tree health

 Datganiad i'r Wasg gan gorff allanol Forest Research, nid yw ar gael yn y Gymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020

Gallai coedwig law'r Amazon fynd o fewn oes

Bydd ecosystemau mawr, fel coedwig law'r Amazon, yn chwalu ac yn diflannu’n ddychrynllyd o gyflym, unwaith y cyrhaeddir trobwynt hollbwysig, yn ôl cyfrifiadau yn seiliedig ar ddata’r byd go iawn.

Wrth ysgrifennu yn Nature Comms (doi), mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Southampton ac Ysgol Astudiaethau'r Dwyrain ac Affrica, Prifysgol Llundain, yn datgelu pa mor gyflym y bydd ecosystemau o wahanol feintiau yn diflannu, unwaith y byddant wedi cyrraedd pwynt y maent yn chwalu y tu hwnt iddo, gan drawsnewid yn ecosystem amgen.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2020

Gallai dealltwriaeth newydd o wenwyn nadredd esgor ar feddyginiaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol

Gallai ymchwil newydd, sydd yn gwrthbrofi'r ddamcaniaeth bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig mewn ymlusgiaid, arwain hefyd at driniaethau meddygol newydd i wrthweithio effaith brathiadau gan nadredd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2014

Gall dulliau ymchwil sy'n dod o hyd i droseddwyr cyfresol helpu i arbed teigrod

Gallai offeryn proffilio daearyddol a ddefnyddir i ddal troseddwyr cyfresol helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu gan deigrod, yn ôl gwyddonwyr a fu'n cydweithio ar astudiaeth ymchwil cadwraeth arloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2018

Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir

Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl.

Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft. 

Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed.

Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Galwadau am reolaeth wrth i Lyffantod Asiaidd fynd ati i achosi llanast ym Madagascar

Er ein bod yn gwybod am y niwed a wnaeth y llyffant cansen an-frodorol i fywyd gwyllt brodorol Awstralia, mae'n ymddangos ein bod ni, fodau dynol, wedi llwyddo i wneud yr un camgymeriad eto.

Oni bai bod mesurau rheoli cyflym yn cael eu rhoi ar waith, mae llyffant an-frodorol yn mynd i achosi llanast ym Madagascar, sy'n gartref i lawer o rywogaethau unigryw nad ydynt i'w cael ond ar yr ynys.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018

Gellir atal colli carbon o gorstiroedd mangrof ac felly arafu newid hinsawdd - medd gwyddonwyr Bangor

Mae gwyddonwyr yn honni y gellir rhoi terfyn ar ryddhau symiau peryglus o nwyon tŷ gwydr o gorstiroedd mangrof.

Mae tîm o ymchwilwyr, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn dweud bod ganddynt y potensial i roi terfyn ar ryddhau nwyon sy'n newid hinsawdd, megis carbon deuocsid, rhag cael eu gollwng o gorstiroedd mangrof os ydynt yn cael eu niweidio neu eu torri i lawr.  

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016

Graddedigion Bangor yn gwneud gwahaniaeth ar broject World Challenge

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn gweithio ar broject amgylcheddol ym Madagascar, sydd ar restr fer ar gyfer World Challenge. Cystadleuaeth fyd-eang yw hon i ganfod projectau neu fusnesau bychain o amgylch y byd sydd wedi dangos mentergarwch ac arloesedd ar lefel sylfaenol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010

Graddedigion Bangor yn mynd i'r Fringe

Bydd pedwar o raddedigion Prifysgol Bangor yn mynd â sioe sgets wreiddiol i ŵyl gomedi'r "fringe" yng Nghaeredin eleni!

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013

Gradd Fiofeddygol Bangor Ymysg y Gorau ym Mhrydain

Am y trydydd tro yn olynol, mae'r Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol wedi achredu cwrs BSc Gwyddor Fiofeddygol Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor am gyfnod arall o bum mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2013

Gwahodd academydd o Fangor i banel rhyngwladol ar gael gwared ag is-gynhyrchion anifeiliaid

Mae Dr Prysor Williams o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth newydd ddychwelyd o symposiwm rhyngwladol yn Detroit, UDA, yn canolbwyntio ar drafod bob agwedd ar gael gwared ag is-gynhyrchion anifeiliaid. Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd ddau bapur ar y gwaith ymchwil a wneir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012

Gwaith ymchwil Prifysgol Bangor o gymorth wrth warchod rhywogaeth newydd i’r rhestr gwarchod

Rydym yn ymwybodol bod masnachu a chludo ifori yn cael ei reoli’n dyn er mwyn gwarchod eliffantod, a bod cynnyrch a ddaw o anifeiliaid eraill fel corn y rhinoseros hefyd yn cael ei reoli’n llym mewn ymgais i roi stop ar y fasnach anghyfreithlon a potsio neu herwhela, sydd yn fygythiad i oroesiad rhai rhywogaethau.

Mae’r rhestr y rhai a geir eu gwarchod yn ymestyn y tu hwnt i’r anifeiliaid mwyaf adnabyddus yr ydym mor hoff ohonynt.

Y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio a monitro’r fasnach mewn cynnyrch bywyd gwyllt yw CITES (neu Convention on the International Trade in Endangered Species), ac mae 183  gwlad yn ardystion iddo.

Mae grŵp rhywogaeth arall bellach wedi ymuno â’r rhestr yn dilyn cyfarfod CITES diweddar, sef cath fôr y diafol, ac o heddiw ( 4 Ebrill) ymlaen, bydd y rheoliadau newydd yn cael eu gweithredu.

Mae un fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn chwarae rhan mewn gwarchod cath fôr y diafol (devil ray) a’r gath fôr manta, sydd eisoes yn cael ei gwarchod.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2017

Gweinidog yn croesawu tri academydd o Fangor ymysg y tranche diweddaraf o wyddonwyr rhyngwladol Sêr Cymru

 Bu tri academydd o Fangor ymysg y tranche diweddaraf o Gymrodyr a Chadeiryddion ymchwil rhyngwladol i Gymru mewn derbyniad arbennig yng Nghaerdydd neithiwr [27 Chwefror 2017] i ddathlu buddsoddiadau Sêr Cymru ar ddechrau ail gyfnod y rhaglen.,

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2017

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

Gwilwyr Autumnwatch i ddysgu am Frithyll Môr

Bydd  gwylwyr rhaglen Autumnwatch ar draws Prydain yn dysgu am broject sy’n gobeithio sicrhau dyfodol brithyll môr, ar raglen i’w ddarlledu  ar BBC 2 21.30 18.11.10.

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2010

Gwneud arolwg o gynefin y salamandr yn Honduras

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor newydd ddychwelyd gartref o daith chwech wythnos i Honduras yng Nghanolbarth America. Mae Molly Mannion, 20, o Fangor, newydd gwblhau ail flwyddyn ei chwrs pedair blynedd MZool Sŵoleg gyda Herpetoleg. Cafodd Molly, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, gyfle i gymryd rhan yn y daith Operation Wallacea fel rhan o fodiwl cwrs maes.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015

Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016

Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.

Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016

Gwobr bwysig i broject ymchwil o Brifysgol Bangor

Rhoddwyd gwobr bwysig i broject ymchwil, a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd dan y rhaglen FrameWork7, ac a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Bangor.

Cafodd consortiwm ProMine, a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol (Yr Athro Barrie Johnson, a Dr. Barry Grail, Sabrina Hedrich a Catherine Kay), ei gyllido i gynhyrchu nwyddau newydd o adnoddau mwynau a deunyddiau gwastraff sydd i'w cael yn Ewrop.    Fel rhan o hyn fe wnaeth tîm Bangor ddatblygu dulliau newydd o adfer metelau a syntheseiddio mwynau o ddyfroedd gwastraff, gan ddefnyddio rhywogaethau newydd o ficro-organebau.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014

Gwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir o Fangor

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae'n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd.

Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar ôl cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu'n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2018

Gwrthbrofi’r cysylltiad rhwng gwenwyn nadroedd ac ysglyfaeth

Mae'r hyn oedd yn datblygu i fod yn rhagdybiaeth gyffredin ymhlith herpetolegwyr, sef bod cyfansoddiad gwenwyn nadroedd fel rheol yn adlewyrchu amrywiaeth eu hysglyfaeth, wedi cael ei wrthbrofi mewn un rhywogaeth gyffredin o nadroedd rhuglo Gogledd America.

Roedd nifer o astudiaethau diweddar wedi nodi cysylltiadau rhwng y math o ysglyfaeth a'r math o wenwyn a oedd wedi esblygu mewn rhywogaethau o nadroedd gwenwynig ledled y byd. Credwyd bod hyn yn adlewyrchu dethol naturiol er mwyn cael y gwenwyn gorau i wahanol fathau o ysglyfaeth, ac weithiau'n 'ras-arfau' esblygiadol rhwng rhywogaethau o nadroedd ac ysglyfaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

Gwyddonwyr Bangor yn arwyddo llythyr at ddynoliaeth

Mae gwyddonwyr o Fangor ymhlith 15,364 o wyddonwyr o 184 o wledydd ledled y byd sydd wedi arwyddo ‘llythyr o rybudd’ at ddynoliaeth ynglŷn â’r sefyllfa ddybryd sydd yn ein hwynebu.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017

Gwyddonwyr gwlypdir Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn sioe BBC

Mae gwyddonwyr gwlypdir o Brifysgol Bangor wedi bod yn cymryd rhan mewn sioe BBC am un o gynefinoedd pwysicaf Cymru.

Ymddangosodd dau aelod o Grŵp Gwlypdiroedd Bangor y brifysgol ar gyfres boblogaidd Radio Wales,Science Café.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2015

Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod â’r wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB), sydd yn gweithio ar broject gwyddonol arloesol ar newid hinsawdd, wedi bod yn ymweld â Phrifysgol Bangor i weithio yn y labordai, fel rhan o’u project: Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew.

Mae gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor wedi bod yn arwain y project o dan Grant Partneriaeth gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU.  Maent wedi bod yn gweithio efo’r disgyblion ers mis Medi. Mae’r project wedi bod yn cyflwyno i’r disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid môr mewn rhan o’r byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2012

Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn prawf iechyd ar gefnforoedd ledled y byd

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymuno â gwyddonwyr morol o bob cwr o'r byd ar 21 Mehefin i gymryd rhan mewn project ymchwil byd-eang uchelgeisiol - Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd.

Ceir 80% o'r holl fywyd ar y ddaear yng Nghefnforoedd y Byd sy'n ymestyn ar draws mwy na 70% o arwynebedd y byd.  Micro-organebau morol sy'n gyfrifol am y ffaith bod cylchredau elfennau'r byd yn rhedeg yn llyfn, ond mae llai na 1% ohonynt yn hysbys.  Bydd yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn ymuno a 150 o gyrff ymchwil o Ynys yr Iâ i Antarctica ac o Moreea (Polynesia Ffrengig) i Dde Affrica i astudio a chynnal prawf iechyd ar gefnforoedd y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2014

Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile

Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar  Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019

Hediadau amrywiol gwyddau ymfudol yn rhoi golwg unigryw ar ffisioleg a biomecaneg adar ar uchderau mawr

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n astudio bioleg ymfudol, wrth iddynt hedfan yn uchel iawn dros ucheldir Tibet a mynyddoedd yr Himalaya, wedi datgelu sut mae'r adar hyn yn ymdopi â hedfan mewn aer cymharol denau o ddwysedd isel dros y mynyddoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2015

Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats

Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl.

Eu syniad ar gyfer codi arian yw cynnal gŵyl undydd, Draig Beats, gan roi cyfle i bawb oedd eisiau bod o gymorth i gydweithio.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

How noise pollution is changing animal behaviour

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015

How the snake got its extra-long body

Dyma erthygl yn Saesneg gan John Mulley, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorai Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2016

How we're using ancient DNA to solve the mystery of the missing last great auk skins

Dyma erthygl yn Saesneg gan  myfyrwraig PhD, Jessica Emma Thomas  o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017

Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE.

Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn  golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018

Hwb ariannol i wyddorau morol Cymru

Heddiw (dydd Mercher, 8 Medi), cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fuddsoddiad sylweddol o £23.6m i ddatblygu sector morol Cymru sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y prosiectau ymchwil y mae busnesau a phrifysgolion, rhyngddynt, yn gallu eu rhoi ar waith.

Mae prosiect SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn dull Cynaliadwy) Prifysgol Bangor wedi cael y golau gwyrdd yn dilyn hwb ariannol o £12.6m gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2010

Investigating why oak trees are dying is helping scientists understand how infectious diseases work

Dyma erthygl yn Saesneg gan James Doonan o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2019

Lansio Rhaglen Hyfforddi Ddoethurol Envision

Partneriaeth Hyfforddi Doethurol yw 'Envision', a gyllidir gan NERC ac sydd dan arweiniad grŵp tra llwyddiannus o sefydliadau ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn recriwtio 60 o fyfyrwyr PhD (12 bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf - yn dechrau ym mis Ionawr 2014).

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014

Llygredd microblastig yn gyffredin mewn llynnoedd ac afonydd Prydain yn ôl astudiaeth newydd

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear wedi canfod llygredd microblastig mewn rhai o'r afonydd a'r llynnoedd mwyaf eiconig a phellennig ym Mhrydain.

Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs, gwlyptir a chronfa ddŵr yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019

Lockdown challenges – what evolution tells us about our need for personal space

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2020

Madagascar Evening

Students and staff in the School of Environment, Natural Resources and Geography are organising a fund-raising evening to support the conservation work of the Malagasy NGO Madagasikara Voakajy (http://www.madagasikara-voakajy.org/) with which the School has a really close relationship.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013

Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal newidiadau genetig di-droi’n-ôl mewn stociau pysgod

Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i’r byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy’n dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon.

Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod newid yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013

Mae athro adnabyddus o ogledd Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwlyptiroedd Cymru fel rhan o ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd

Professor Chris Freeman from Bangor University has thrown his support behind the event aimed and at raising the awareness of wetlands across the globe.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2014

Mae gan y pysgodyn sebra a'r ddynolryw gyfaill biofeddygol newydd, y gar brych

Mae genom y gar brych, pysgodyn sy'n esblygu'n araf, mor debyg i'r pysgodyn sebra a'r ddynolryw y gellir ei ddefnyddio fel rhywogaeth bont a allasai arwain at ddatblygiadau pwysig mewn ymchwil fiofeddygol ym maes clefydau dynol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016

Mae gwyddau'n rhedeg yn ein helpu i ddeall sut mae goddef lefelau ocsigen isel.

Bu tîm o wyddonwyr rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Bangor a dan nawdd y BBSRC, wrthi'n ddiweddar yn olrhain llwybr yr aderyn sydd yn hedfan uchaf yn y byd, sef yr ŵydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya.  Erbyn hyn maent wedi dangos sut y gall yr adar hyn oddef rhedeg yn gyflym iawn tra'n anadlu aer sy'n cynnwys dim ond 7% o ocsigen. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016

Mae "pwll bach Darwin" yn dangos sut y gall rhywogaethau newydd ymddangos heb wahanu daearyddol

Mae pysgod cichlid o grater folcanig wedi eu dal yn y weithred o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol

Ydy'n wir y gall rhywogaeth newydd esblygu os nad oes ffin ffisegol i ysgogi gwahanu genetig? Ymddengys bod tystiolaeth ffisegol a genomig o grater folcanig Llyn Massoko sy'n 700 medr ar draws wedi cofnodi'r broses wrth iddi ddigwydd. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015

Mannau nodedig am eu bioamrywiaeth o dan fygythiad wrth i goedwigoedd gael eu cwympo

Mae ardaloedd sy'n wynebu'r datgoedwigo mwyaf ar y blaned ar hyn o bryd wedi cael eu hadnabod fel mannau fu'n arbennig o bwysig yn hanes esblygol bioamrywiaeth hynod De ddwyrain Asia.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Mesur llwyddiant adferiad gweundir

Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn project uchelgeisiol i adfer yr ail fawnog i’r mwyaf yng Nghymru sydd hefyd yn ardal cadwraeth arbennig a ddynodwyd gan Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011

Myfyriwr o Fangor ar y brig ar gyfer gwobr Wythnos yr Hinsawdd

Mae Andy O’Callaghan, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddorau Morol/ Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2013

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyrwyr o Brifysgol Bangor i gymryd rhan mewn gweithgaredd plannu coed ar gyfer The One Show gan y BBC

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn torchi eu llewys o flaen camerâu The One Show y BBC, er mwyn helpu cymuned Maes y Pant yn Gresffordd (ger Wrecsam) i drawsnewid hen chwarel yn adnodd bioamrywiol i’r gymuned. Gofynnwyd i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Bangor dros Dreborth (STAG) a’r Gymdeithas Garddwriaeth Organaidd (HOG Soc) roi help llaw. 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012

Mynediad agored i arddangosfa Bydoedd Cudd 2015

Mae’r arddangosfa ‘Bydoedd Cudd', sef prif ddigwyddiad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, a gynhelir rhwng  13 - 22 Mawrth 2015, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni. Hon fydd y bumed gwaith i’r ŵyl boblogaidd gael ei chynnal.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015

Ni all tyfu olew palmwydd ar gyfer biodanwyddau arbed ein hinsawdd

Dywed gwyddonwyr y gall tyfu olew palmwydd yn y trofannau i wneud biodanwyddau ‘gwyrdd’ gyflymu effeithiau newid hinsawdd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013

Noisy humans make birds sleep with one eye open – but lockdown offered a reprieve

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2020

Pan fydd gwres yn iachau canser

Yn ddiweddar cyhoeddwyd un o'r adolygiadau cynhwysfawr cyntaf o'r pwnc  o drin canser gan ddyfnyddio gwres yn Open Biology, cyfnodolyn cyflym mynediad agored y Gymdeithas Frenhinol. Yr awduron yw Thomas Turner, a raddiodd yn ddiweddar mewn Bioleg Canser ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Thomas Caspari, ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014

Pecynnu ein bwydydd heb blastig

Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd.

Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd.

Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019

Pedwar Cymrawd Newydd yn Cael eu penodi o Brifysgol Bangor

Mae’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi pedwar Cymrawd  ewydd o Brifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr newydd  sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018

Pedwaredd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor ar y gorwel

Mae cynllunio brwd at bedwaredd Ŵyl Wyddoniaeth flynyddol Bangor ar hyn o bryd.   Cynhelir yr Ŵyl Wyddoniaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg o ddydd Gwener 14 Mawrth i ddydd Sul 23 Mawrth 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014

Penodi Athro’n Gadeirydd Gweithgor Rhyngwladol

Mae’r Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol yn Gadeirydd ar weithgor ar gyfer  Cyngor Rhyngwladol Ar Archwilio’r Moroedd (The International Council for the Exploration of the Sea – ICES). Mae i gadeirio’r gweithgor ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd Môr (Working Group on Application of Genetics in Fisheries and Mariculture – WGAGFM) am dair blynedd o 1 Ionawr 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015

Poblogaeth Morlo Eliffant ddiflanedig yn datgelu "peiriant amser" esblygiadol.

Gall amrywiaeth enynnol o fewn poblogaethau sydd ar wahân ddatblygu'n eithaf cyflym mewn cyd-destun esblygiadol, yn ôl canfyddiadau papur a gyhoeddwyd yn nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol B (sydd ar gael ar-lein 29.1.14).

 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2014

Prifysgol Bangor yn cadarnhau ei henw da ym maes gwyddor gwlyptiroedd

Mae gwobr ryngwladol a chwrs newydd arloesol yn cadarnhau fod Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd ym maes gwyddor gwlyptiroedd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013

Prifysgol Bangor yn cefnogi ailgyflwyno’r afanc ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2018

Wrth nodi Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2.2.18), mae Prifysgol Bangor wedi gosod ei chefnogaeth tu cefn i’r broses o ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru.

Mae gwyddonwyr y Brifysgol yn galw am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Prosiect Afancod Cymru, sy’n ceisio ailgyflwyno’r anifail eiconig yn y wlad. Ar hyn o bryd, mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn edrych ar safleoedd posib ar gyfer rhyddhau’r afancod. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu monitro er mwyn ceisio gweld a fyddai ailgyflwyno ar raddfa eang yn bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

Prifysgol Bangor yn cynnal y symposiwm pegynol gyntaf

Mae Symposiwm Pegynol' yw'r cyntaf o'i fath i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (Sadwrn 8 Rhagfyr).

Trefnwyd 'Symposiwm Pegynol Bangor’  a gynhelir yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ar y cyd gan Rwydwaith Pegynol y DU a Chymdeithas Endeavour, cymdeithas myfyrwyr y Brifysgol ar gyfer gwyddorau môr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012

Prifysgol Bangor yn dod â chyllid ymchwil Ewropeaidd sylweddol i ogledd Cymru

Codwyd cyllid ymchwil gwerth bron i £10 miliwn gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor o raglen cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd gan Brifysgol Bangor, ac mae'r brifysgol yn disgwyl gwella'r canlyniadau hyn yn rhaglen ymchwil ac arloesi newydd Ewrop.

Llwyddwyd i ariannu pedwar deg dau o brif brojectau ymchwil Ewrop-gyfan dan arweiniad academyddion Prifysgol Bangor, yn wyneb cystadleuaeth gref yn FP7, sef  seithfed Raglen Fframwaith Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd a gynhaliwyd o 2007 tan 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014

Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn gwobrwyo staff am Ragoriaeth Ymchwil

Am y tro cyntaf mae digwyddiad wedi cael ei gynnal i ddathlu a gwobrwyo rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2016

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Prize Winning Student Graduates

A Bangor University prize-winning student will be celebrating her success during graduation week this week.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Proffil Unigolyn sy'n Graddio: Emma Watson

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Profiad newydd i fam leol

Mam ifanc a adawodd yr ysgol yn 16 oed yn dweud fod astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi newid ei bywyd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Profi dull newydd o ddiogelu stociau pysgod y byd

Mae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae’r papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012

Project Gardd y Ddwy Ddraig

Mae Gardd Tsieineaidd gyffrous newydd i’w datblygu yng Ngardd Fotaneg Treborth, fel rhan o’r project ehangach ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014

Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.

Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017

Pysgodyn Anferth yn Dilyn Kate

A 70 pound grouper, fondly named Darth Vader, took a shine to a Bangor University student over the summer. Kate Cooper, 18, from Pembroke, Bermuda, volunteered at the Bermuda Aquarium during her summer vacation. The massive fish seemed to be very fond of Kate, following her around like a puppy as she cleaned the inside of the glass in the fish tanks

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012

REF 2014: Ymchwil gyda'r orau yn y byd yn y Gwyddorau Biolegol

Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol wedi croesawu canlyniadau REF2014, sy'n rhoi'r Ysgol yn yr 20 uchaf yn y DU. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014

Rhaglen ymchwil £7m i ddarpariaeth dŵr, bwyd ac ynni

Bydd y pum project ymchwil cyntaf i'w hariannu drwy Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, sy'n werth £7 miliwn, yn cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd Heddiw (ddydd Iau, 26 Mawrth).

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015

Rhoi prawf ar waith arwyddocaol yn fyd-eang gan fyfyriwr a raddiodd o Fangor

Bydd polisi byd-eang newydd, a gychwynnwyd gan fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei brofi am y tro cyntaf, yn awr bod mynydd iâ anferthol, yr amcangyfrifir iddo fod yn fwy na chwarter maint Cymru, wedi torri'n rhydd o Antarctica.

Mae'r gŵr a raddiodd o Fangor, Dr Philip Trathan, yn arwain Bioleg Gadwraethol yn yr Arolwg Antarctig Prydeinig (British Antarctic Survey - BAS) byd-enwog. Un o'i lwyddiannau diweddar oedd gweld polisi yr oedd wedi ei gychwyn a'i wthio drwy nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, o'r diwedd, yn cael sêl bendith y Comisiwn Cadwraeth Adnoddau Bywyd Môr yr Antarctig (CAMLEOLIR).

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017

Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel

Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon.

Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI:  10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi. 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Scientists at work: tackling India's snakebite problem

Dyma erthygl yn Saesneg gan Anita Malhotra o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2015

Snake venom can vary in a single species — and it’s not just about adaptation to their prey

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Wolfgang Wüster o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Giulia Zancolli, bellach yn Université de Lausanne sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Mae fersiwn Cymraeg o#n datganiad i'r wasg ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/news/ymchwil/gwrthbrofi-r-cysylltiad-rhwng-gwenwyn-nadroedd-ac-ysglyfaeth-40110

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019

Some lizards have green blood that should kill them – and scientists can't work out why

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Anita Malhotra o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2018

Stephanie ar y ffordd i'w gyrfa ddelfrydol

Mae myfyrwraig o ogledd Cymru, sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma, ar y ffordd yn bendant i'w gyrfa ddelfrydol ar ôl sicrhau swydd dros dro yn Sw Caer. Bu Stephanie Davies, 27, o Gei Connah, Sir y Fflint, yn astudio am dair blynedd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol gan ennill gradd dosbarth cyntaf BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015

Sut cafodd y neidr ei gwenwyn

Mae gwenwyn nadredd heddiw yn gymysgedd o ddwsinau o wahanol broteinau ac mae'n enghraifft o newid esblygol - nodwedd newydd sydd wedi ymddangos mewn grŵp penodol o anifeiliaid ac sydd wedi cyfrannu at eu llwyddiant. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn deall sut y daeth y nodweddion newydd hyn i fod er mwyn deall patrymau esblygu mwy ymhlith anifeiliaid a gall daflu goleuni pwysig ar sylfaen enetig gwahaniaethau rhwng rhywogaethau, gyda goblygiadau amlwg ar gyfer effeithiolrwydd triniaethau i bobl sydd wedi cael eu brathu gan nadredd gwenwynig, lle mae cyfansoddiad y gwenwyn yn amrywio o fewn a rhwng rhywogaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2014

Sut mae pengwiniaid yn defnyddio swigod i nofio at wyneb y môr

Mae awgrym gan yr Athro Roger Hughes o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor am  lwybr swigod pengwiniaid wedi ei gyhoeddi yn  rhifyn Tachwedd 2012 o’r cylchgrawn National Geographic. Mae’n awgrymu bod y llwybr swigod a welir mewn lluniau tanddwr o bengwiniaid ymerodrol yn nofio at wyneb y môr yn cael ei gynhyrchu i leihau llusgiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012

Sut mae’r cranc yn bwrw ei gragen?

Anglers everywhere would probably agree that, in season, there’s no better bait than freshly moulted crab. During the moulting season, nothing else works as successfully, as fish are in a frenzy for the ‘delicacy’ of a soft crab. But we’re unlikely to see a crab losing its shell as we walk along our shoreline.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Taith maes rhithiol i fyfyrwyr gwlyptir Bangor

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud ar draws y wlad, llwyddodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor fynd ar daith maes o amgylch Ynys Môn yn ddiweddar.

Ni thorrwyd unrhyw reolau ar bellhau cymdeithasol serch hynny am i'r daith maes gael ei chynnal yn rhithiol fel rhan o gamau'r brifysgol i symud at addysgu ar-lein dros gyfnod y coronafirws.

Roedd y 'daith maes rhithiol' yn rhan o fodiwl trydedd flwyddyn yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol, a drefnwyd gan yr Uwch Ddarlithydd Dr Christian Dunn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2020

Tansanïa i fabwysiadu polisïau newydd i ddiogelu stociau pysgod

Mae Gweinyddiaeth Da Byw a Physgodfeydd Tansanïa yn bwriadu mabwysiadu argymhellion ar gyfer cadw'r amrywiaeth genetig unigryw o tilapia ar gyfer diogelwch bwyd.

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Sefydliad Earlham yn Norwich ac yn Tanzania Fisheries Research Institute (Tafiri), a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018

The African snakebite 'crisis' is nothing new: we’ve been worried about antivenom for decades

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Anita Malhotra  o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2015

Therapïau canser dynol yn trin crwbanod môr llawn tiwmorau yn llwyddiannus

Mae astudiaeth newydd yn dangos y gellir defnyddio therapïau a ddefnyddir i drin canserau mewn pobl yn llwyddiannus hefyd i drin tiwmorau sy'n debyg o ran eu geneteg mewn crwbanod môr.  Mewn gwirionedd, gall crwbanod ddod dros eu tiwmorau eu hunain a helpu gwyddonwyr i ddeall canserau dynol yn well.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Thousands of starfish have washed up dead after the ‘Beast from the East’ – here’s why

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Coleen Suckling o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2018

Topping success – A slice of Chemistry for local schools during chemistry week

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt

Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o’r ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar sut mae’r ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Tropical forests’ carbon sink is already rapidly weakening

Mae Dr Simon Willcock, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn arbenigwr mewn tirweddau trofannol a’r buddion y mae pobl yn eu cael ohonynt. Cyfrannodd at ddarn mawr o ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw. Bu’n casglu a darparu data o fforestydd glaw Tanzania, ynghyd â chydweithio â pharatoi’r papur.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2020

Un o raddedigion Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglenni i Uned Byd Natur y BBC

Yn ddiweddar fe wnaeth Dr Ross Piper, 37, a fu'n astudio Sŵoleg ac Ecoleg Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, ddychwelyd o ymweliad chwe wythnos â Burma, lle bu’n gweithio fel cyflwynydd i Uned Byd Natur y BBC.  Caiff y gyfres dair rhan ei darlledu ar Ddydd Gwener, Tachwedd 29ain ar BBC2 am 9pm.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013

We're working on a more accurate pollen forecasting system using plant DNA

Dyma erthygl yn Saesneg gan Athro Simon Creer a Georgina Brennan o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018

What prairie dogs tell us about the effects of noise pollution

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.  

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2016

Why do snakes produce venom? Not for self-defence, study shows

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Wolfgang Wüster o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Dr Kevin Arbuckle o Brifysgol Abertawe sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2020

Why we should bother saving Britain’s only venomous snake

Dyma erthygl yn Saesneg gan Anita Malhotra, Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016

Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'

Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi ‘A whistle-stop tour around the coast’ mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio.  Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau.  Gellir archebu'r rhain drwy wefan Pontio neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018

Ydych chi'n gwybod beth sydd yn eich bodiau pysgod? Mae yn y genynnau

Mae offer datgelu DNA yn chwyldroi'r ffordd y caiff stociau pysgod byd-eang eu diogelu a'u hadnabod. Mae’n awr yn bosibl adnabod rhywogaeth pysgodyn ar unrhyw adeg o'r rhwyd at gynnyrch briwsion bara yn y rhewgell, ac mae'r offer yma'n ddigon grymus i ddatgelu lle y daliwyd y pysgodyn, neu i ba grŵp o bysgod yr oedd yn perthyn.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol.

Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019

Ymchwil Newydd yn Anelu at Weddnewid Dulliau o Ragweld Lefelau Paill

Mae tîm o ymchwilwyr wrthi'n datblygu cenhedlaeth newydd o ddulliau o fonitro paill ac maent yn gobeithio y byddant yn arwain at ddulliau mwy dibynadwy o ragweld lefelau paill i filoedd o boblogaeth yn y DU sy'n dioddef o alergeddau haf.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015

Ymchwilwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynllunio sut i ddatrys dirgelwch datblygiad rhywogaethau newydd o bysgod mewn llyn crater yn Tanzania

'Dirgelwch y dirgelion' oedd disgrifiad Charles Darwin ohono: sut mae rhywogaethau newydd yn codi? Rydym yn deall llawer mwy erbyn hyn nag yn amser Darwin, wrth gwrs. Ond dim ond ers i wyddonwyr allu creu dilyniant DNA ar raddfa fawr yn rhad y gallwn obeithio deall sut mae'r broses yn gweithio ar y lefel fwyaf sylfaenol. 

Dyfarnwyd grant gwerth £250K gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor i astudio pysgod o lyn bach a ffurfiwyd mewn crater folcanig yn Tanzania.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014

Ymchwilwyr i dreillio 'ddeunydd tywyll microbaidd' ar gyfer adnoddau biotechnoleg newydd

Yn y wobr gyntaf i Brifysgol Bangor gan ffynhonnell cyllido ymchwil o bwys yr Undeb Ewropeaidd, Horizon 2020 Program, bydd Yr Athro Peter Golyshin yn arwain consortiwm rhyngwladol o fwy na 20 o bartneriaid o'r byd academaidd a diwydiant o 12 o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaid diwydiannol rhyngwladol blaenllaw, a byddant yn gweithio ar broject cydweithredol pedair blynedd gwerth 6 miliwn Ewro. Bydd y project yn cloddio am, ac yn defnyddio, ensymau a metabolion sydd newydd eu darganfod, yn arbennig er mwyn cynhyrchu cemegau,  technolegau glanhau'r amgylchedd a chyffuriau gwrth-ganser.

 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015

Yr Athro Johnson yn ennill gwobr darlith wobrwyol bwysig

Mae'r Athro Barrie Johnson o Goleg y Gwyddorau Naturiol yn ymuno â rhestr glodwiw o wyddonwyr byd-enwog a wahoddwyd i gyflwyno Darlith HallimondCymdeithas Fwynegol y DU.

Yr Athro Johnson yw'r unig academydd o Gymru i gyflwyno'r ddarlith yn y 46 mlynedd ers ei sefydlu, a chafod ei enwebu a'i ddewis gan banel ar gyfer yr anrhydedd. Cyhoeddir ei ddarlith yng nghyfnodolyn y gymdeithas maes o law.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned

Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd.

Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn  naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020

Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012

Dewch draw i Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun 24 Mehefin 2013 am 6.30pm i gael clywed am "Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012". Mae hon yn ddarlith amserol dros ben o ystyried y cyfarfod diweddar o feteorolegwyr blaenllaw Prydain i drafod y patrymau tywydd anarferol yr ydym wedi profi’n ddiweddar.

Bydd yr Athro Geraint Vaughan, un o arbenigwyr amlycaf y byd yn y maes yn rhoi darlith gyhoeddus- a gafodd ei ohurio yn ystod Gŵyl WyddoniaethPrifysgol Bangor oherwydd tywydd garw! Noddir yr achlysur gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Mae mynediad am ddim, yn cynnwys gwydraid o win, ac mae'n agored i holl aelodau'r cyhoedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2013

Site footer